Clwb Brecwast

Cynhelir y clwb brecwast rhwng 8.00yb – 8.45yb o fore Llun i fore Gwener. Cynigir brecwast iach a maethlon am ddim, i blant cofrestredig, gyda dewis o grawnfwyd, ffrwythau, sudd a tost. Er mwyn cael brecwast, rhaid cyrraedd erbyn 8.35yb.

Mae angen i rieni sydd am gymryd mantais o’r clwb ardderchog yma sicrhau fod eu plant wedi cofrestru.

Am fwy o wybodaeth neu ffurflen cofrestru, cysylltwch a’r ysgol neu’r Cynorthwywyr Clwb Brecwast.

Gofynnir yn garedig i chi arwyddo eich plentyn/plant i fewn i glwb brecwast pob bore os gwelwch yn dda.