Cyngor Ysgol

Mae’r Cyngor Ysgol yn cynnwys grŵp o blant sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli barn y disgyblion eraill ar sut i wella’r ysgol.

Pob blwyddyn, fydd pob dosbarth yn ethol dau gynrychiolydd i fod yn aelodau o’r Cyngor Ysgol.

Mae’r Cyngor Ysgol wedi cynnal stondinau yn y ffair Haf a’r ffair Nadolig. Wrth gael cyngor ysgol mae’r plant yn teimlo eu bod nhw yn gallu rhoi llais i’r disgyblion eraill, gall yr ysgol ymateb i’w barn a’u gofynion a chwarae rôl gweithredol i wneud yr ysgol yn lle hapus a chynhwysol.

Aelodau’r cyngor ysgol am y flwyddyn academaidd yma yw:

Ben, Efan, Carys, Maisie, Krishna, Amelie, Mason, Isla, Lucy and Robin.