Ein Hysgol Ni

Agorwyd yr ysgol ym Mis Medi,1972. Cafodd ei hadeiladu fel ysgol ardal ym mhentref Efailwen. Mae’r pentref yn Sir Gaerfyrddin ac yn sefyll tua milltir a hanner o’r Afon Cleddau sydd yn ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Ysgol Gynradd yw Ysgol Beca gyda tua 60 o ddisgyblion rhwng 4 a 11 mlwydd oed. Maent yn dod o ardaloedd Llanglydwen, Login, Hebron, Glandy Cross a Llangolman. Cymraeg yw prif iaith yr ysgol gan ein bod yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Addysgir Saesneg fel pwnc i’r plant o flwyddyn 3 ymlaen.

Terfysg Beca

Yn Ysgol Beca, rydym yn ymfalchio yn ein hanes. Fel y soniwyd uchod, lleolir yr ysgol yn Efailwen lle bu Terfysgoedd Beca rhwng 1839 a 1843 yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru. Roedd y terfysgoedd yn gyfres o brotestiadau a wnaed gan ffwrmwyr yn erbyn talu ffioedd tollau a godwyd i ddefnyddio’r ffyrdd. Roedd y terfysgwyr yn aml yn ddynion wedi’u gwisgo fel merched a oedd yn cymryd camau yn erbyn y tollbyrth. Roedd y terfysgwyr yn galw eu hunain yn ‘Ferched Beca’. Pob blwyddyn ar y 13eg o Fai rydym yn dathlu diwrnod ‘Merched Beca’ i gofio’r diwrnod ddymchwelwyd y tollborth cyntaf.