Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2020-21 rhoddwyd i Ysgol Beca ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £6900.
Yn Ysgol Beca mae gennym gynllun, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
darparu lefelau uwch o staffio yn y dosbarth fel gellir cefnogi digyblion Cinio Ysgol am ddim yn effeithiol.
gwella cyfleoedd allgyrsiol y grŵp targed drwy ddefnyddio gwasnaethau arbenigol megis gwasanaeth cerdd
cefnogi dysgwyr gydag ymyrraeth iaith a rhifedd.
I wneud cais am Ginio Ysgol am Ddim, defnyddiwch y linc isod:
https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/school-meals/free-school-meals/#.XkPhH6d0fGI