Cwricwlwm Newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyson.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn dilyn arolwg annibynnol o drefniadau’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.

Wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

  • 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
  • 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
  • deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,)
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).

Amserlen

https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru/2018/02/21/deall-yr-amserlenni-diwygio-addysg-ar-cwricwlwm/

https://youtu.be/hJjUiPkJbLU

Dyfodol Llwyddiannus

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf